Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 15)

ATODLEN 1LL+CDEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU

CyffredinolLL+C

1Mae’r Tabl yn nodi—

(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;

(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.

TABL

GrŵpDeunyddiauAmodau
1Creigiau a phriddEu bod yn digwydd yn naturiol
2Deunydd cerameg neu goncrit
3MwynauEu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi
4Slag ffwrnais
5Lludw
6Cyfansoddion anorganig actifedd isel
7Calsiwm sylffad
1.

Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig.

2.

Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy.

8Calsiwm hydrocsid a heliEi fod wedi ei waredu mewn ceudod heli

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

DehongliLL+C

2Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

3Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—

(a)creigiau;

(b)clai;

(c)tywod;

(d)grafel;

(e)tywodfaen;

(f)calchfaen;

(g)malurion cerrig;

(h)caolin;

(i)cerrig adeiladu;

(j)cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;

(k)llechi;

(l)isbridd;

(m)silt;

(n)sorod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

4Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—

(a)gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;

(b)cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;

(c)concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

5Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—

(a)ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;

(b)golchion gweithfeydd concrit.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

6Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—

(a)tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;

(b)clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);

(c)amsugnyddion mwynol;

(d)ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;

(e)silica;

(f)mica;

(g)treulyddion mwynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

7Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—

(a)tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;

(b)ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—

(i)plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu

(ii)asbestos.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

8Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—

(a)gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;

(b)slag o losgi gwastraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

9Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—

(a)o hylosgi pren neu wastraff, neu

(b)o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

10Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—

(a)o slwtsh carthion, neu

(b)o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

11Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—

(a)gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;

(b)calsiwm carbonad;

(c)magnesiwm carbonad;

(d)magnesiwm ocsid;

(e)magnesiwm hydrocsid;

(f)haearn ocsid;

(g)fferrig hydrocsid;

(h)alwminiwm ocsid;

(i)alwminiwm hydrocsid;

(j)sirconiwm deuocsid.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

12Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

13Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

(a gyflwynir gan adran 34(3))

ATODLEN 2LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

Gwybodaeth gyffredinolLL+C

1Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw’r person;

(b)unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

(c)datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

(d)cyfeiriad busnes y person;

(e)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

(f)y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I28Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵpLL+C

2Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

(a)datganiad o’r ffaith honno;

(b)enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

(c)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

(d)enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I30Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodauLL+C

3Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I32Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

DehongliLL+C

4At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I34Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

(a gyflwynir gan adran 41(8))

ATODLEN 3LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI

1LL+CRhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhif adnabod;

(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;

(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;

(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;

(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;

(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;

(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;

(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;

(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;

(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I36Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

2LL+CPan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I38Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

(a gyflwynir gan adran 90)

ATODLEN 4LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

1LL+CMae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I40Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

2LL+CYn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I42Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

3LL+CYn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder

(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I44Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

4LL+CYn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;

(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I46Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

5LL+CYn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I48Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

6LL+CYn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I50Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

7LL+CYn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;

(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder 103, 103A neu 103B—

(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,;

(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I52Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

8LL+CYn adran 111 (dehongli Pennod 4)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I54Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

9LL+CYn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I56Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

10LL+CYn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I58Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

11LL+CYn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).;

(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I60Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

12LL+CYn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I62Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

13LL+CYn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I64Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

14LL+CYn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;

(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I66Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

15LL+CYn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I68Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

16LL+CYn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I70Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(ii)

17LL+CYn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

(a)adran 154, neu

(b)adran 70 o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I72Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

18LL+CYn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I74Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)

19LL+CYn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—

  • “mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;;

(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—

(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I76Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)

20LL+CYn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—

DTGT (“LDTA”)adran 192(2)
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”)adran 192(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I78Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)