RHAN 1TROSOLWG

I11Trosolwg o’r Ddeddf

1

Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg o’r Ddeddf hon.

2

Mae Rhan 2—

a

yn gwneud darpariaeth ar gyfer codi treth (treth gwarediadau tirlenwi) ar warediadau trethadwy,

b

yn esbonio beth yw gwarediad trethadwy, ac

c

yn gwneud darpariaeth ynghylch gwarediadau sydd wedi eu hesemptio rhag y dreth.

3

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

a

y personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt,

b

sut y mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy i’w gyfrifo,

c

gwarediadau trethadwy y caniateir hawlio rhyddhad rhag y dreth ar eu cyfer,

d

gofynion cofrestru a chyfrifyddu, ac

e

talu, adennill ac ad-dalu’r dreth.

4

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir mewn lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

a

sut y mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy i’w gyfrifo,

b

y personau y caniateir codi’r dreth arnynt,

c

y weithdrefn a ddefnyddir i godi treth ar berson,

d

talu’r dreth, ac

e

llog taliadau hwyr ar dreth nas talwyd.

5

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r dreth. Mae’n cynnwys—

a

darpariaeth sy’n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud ynghylch amgylchiadau pan fo person i gael hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r dreth,

b

darpariaeth ynghylch creu mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu o fewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig,

c

darpariaeth ynghylch archwilio mangreoedd a rhannu gwybodaeth,

d

darpariaeth ynghylch cosbau,

e

darpariaeth ynghylch cymhwysiad darpariaethau’r Ddeddf hon a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) mewn achosion arbennig (er enghraifft, yn achos grwpiau corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig), ac

f

darpariaeth ynghylch materion amrywiol eraill.

6

Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

7

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch dehongli’r Ddeddf hon).