RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT

I1I210Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safle

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—

a

y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—

i

a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a

ii

yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a

b

y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.