RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT

I1I212Pŵer i addasu esemptiadau

1

Caiff rheoliadau—

a

creu esemptiad ychwanegol rhag treth,

b

addasu esemptiad presennol, neu

c

dileu esemptiad.

2

Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).

3

Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.