Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

27Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o wely dyfroedd eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd sy’n gyfan gwbl ar ffurf—

(a)deunydd o fewn is-adran (2) neu (3), neu

(b)deunydd o fewn un o’r is-adrannau hynny a deunydd o fewn is-adran (4).

(2)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon os yw wedi ei dynnu o wely unrhyw un o’r canlynol (boed naturiol neu artiffisial)—

(a)afon, camlas neu gwrs dŵr arall, neu

(b)doc, harbwr neu gyffiniau harbwr.

(3)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd mwynol sy’n bodoli’n naturiol, a

(b)os yw wedi ei dynnu o wely’r môr yng nghwrs gweithrediadau a gyflawnir at ddiben cael deunyddiau megis tywod neu raean.

(4)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd cymwys,

(b)os ychwanegwyd ef at ddeunydd o fewn is-adran (2) neu (3) at ddiben sicrhau nad yw’r deunydd hwnnw ar ffurf hylif, ac

(c)os nad yw swm y deunydd a ychwanegwyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r diben hwnnw.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at dynnu deunydd yn gyfeiriadau at ei dynnu drwy garthu neu mewn unrhyw fodd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3