RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY
I1I23Gwarediadau trethadwy
1
Gwneir gwarediad trethadwy pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni.
2
Amod 1 yw bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (gweler adran 4).
3
Amod 2 yw naill ai—
a
bod y tir lle y gwneir y gwarediad yn safle tirlenwi awdurdodedig, neu’n rhan o safle o’r fath (gweler adran 5(1)), neu
b
bod trwydded amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y gwarediad (gweler adran 5(2)) ond nad yw’r tir lle y’i gwneir yn safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.
4
Amod 3 yw bod y gwarediad yn warediad o’r deunydd fel gwastraff (gweler adrannau 6 a 7).
5
Amod 4 yw bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.
6
Gweler hefyd adran 8 ar gyfer mathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig sydd i’w trin fel gwarediadau trethadwy (pa un a fodlonir yr amodau uchod ai peidio).