Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

30Gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wedi gwneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gyflawni gwaith adfer.

(2)Caiff ACC ofyn drwy hysbysiad am ragor o wybodaeth gan y gweithredwr at ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai peidio neu o dan ba delerau y dylid ei rhoi.

(3)Rhaid i hysbysiad am gais am ragor o wybodaeth—

(a)cael ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, a

(b)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth bellach, y mae’n rhaid iddo fod yn 30 o ddiwrnodau o leiaf gan ddechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cais.

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau—

(a)os nad yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, neu

(b)os yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r cynharaf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y mae ACC yn cael yr wybodaeth, a

(ii)y diwrnod y mae’r cyfnod ar gyfer darparu’r wybodaeth yn dod i ben.

(5)Os yw ACC yn cymeradwyo’r cais, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(6)Caiff ACC a gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gytuno i ymestyn cyfnod a bennir gan yr adran hon neu oddi tani.

(7)Os yw’r cyfnod a bennir yn is-adran (4) (gan gynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod y cytunir iddo o dan is-adran (6)) yn dod i ben heb i ACC fod wedi dyroddi hysbysiad am ei benderfyniad, mae ACC i’w drin fel pe bai wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer fel y’i disgrifir yn y cais (gan gynnwys unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnwyd rhwng yr adeg y gwnaed y cais a’r adeg y daeth y cyfnod hwnnw i ben).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 30 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(f)