RHAN 3LL+CGWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 3LL+CRHYDDHAD RHAG TRETH

32Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareliLL+C

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd ,

[F1(i)sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu

(ii)sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;]

(b)os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig (neu ar ran o safle o’r fath) a ddefnyddiwyd ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio brig neu weithrediadau chwarela,

(c)os caiff ei wneud yn unol ag amod caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r safle gael ei ail-lenwi (neu i’r rhan o dan sylw gael ei hail-lenwi) yn llwyr neu’n rhannol ar ôl i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, a

(d)os na wnaed unrhyw warediadau trethadwy eraill ar y safle (neu ar y rhan o dan sylw) ers i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, ar wahân i warediadau a oedd wedi eu rhyddhau rhag treth o dan adran 28 neu o dan yr adran hon [F2neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr]

(2)Os daeth y gwarediadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i ben cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(d) at warediadau trethadwy eraill yn cynnwys gwarediadau a oedd yn warediadau trethadwy at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Cyllid 1996 (p. 8) (treth dirlenwi).

(3)Os daeth yr holl weithrediadau mwyngloddio brig a’r holl weithrediadau chwarela ar y safle i ben cyn 1 Hydref 1999, nid yw’r gwarediadau deunydd ar y safle wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon oni bai bod y gofyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(c) wedi ei osod ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3