xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.
(2)Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—
(a)gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a
(b)gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.
(3)Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—
(a)yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a
(b)ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).
(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.
(5)Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 35(1) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
I3A. 35(2)-(5) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(i)