xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.
(2)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.
(3)Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).
(4)Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni
[F1(a)] bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu wedi ei thalu[F2, a
(b)bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—
(i)wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu
(ii)wedi ei dalu i’r person.]
(5)Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.
(6)Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 37(4)(a) in a. 37(4) wedi ei ailrifo fel a. 37(4)(a) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 2(a)
F2A. 37(4)(b) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 37(1)-(4) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
I3A. 37(5)(6) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(k)