Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

46Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwyLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi.

(3)Pwysau trethadwy’r deunydd yw pwysau’r deunydd fel y’i pennir gan ACC gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae ACC o’r farn ei fod yn briodol.

(4)Y gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 46(1)-(3), (5) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I3A. 46(4) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/955, ergl. 2(e)

I4A. 46(4) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/35, ergl. 3