RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH
I1I249Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
a
ACC wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson o dan adran 48, a
b
y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunodd ACC iddo, wedi dod i ben.
2
Rhaid i ACC naill ai—
a
dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwarediadau y mae’r hysbysiad rhagarweiniol yn ymwneud â hwy, neu
b
dyroddi hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad â’r gwarediadau hynny.
3
Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i berson onid yw’n fodlon—
a
bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a
b
bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad.
4
Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi hysbysiad codi treth i berson ai peidio, rhaid i ACC roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person.
5
Rhaid i hysbysiad codi treth—
a
rhoi manylion y gwarediad neu’r gwarediadau trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu â hwy;
b
esbonio pam fod ACC wedi ei fodloni bod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad neu’r gwarediadau;
c
datgan swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad neu’r gwarediadau;
d
esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd;
e
hysbysu’r person am yr hawl i ofyn am adolygiad a’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan Ran 8 o DCRhT.