Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

49Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ACC wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson o dan adran 48, a

(b)y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunodd ACC iddo, wedi dod i ben.

(2)Rhaid i ACC naill ai—

(a)dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwarediadau y mae’r hysbysiad rhagarweiniol yn ymwneud â hwy, neu

(b)dyroddi hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad â’r gwarediadau hynny.

(3)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i berson onid yw’n fodlon—

(a)bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi hysbysiad codi treth i berson ai peidio, rhaid i ACC roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person.

(5)Rhaid i hysbysiad codi treth—

(a)rhoi manylion y gwarediad neu’r gwarediadau trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu â hwy;

(b)esbonio pam fod ACC wedi ei fodloni bod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad neu’r gwarediadau;

(c)datgan swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad neu’r gwarediadau;

(d)esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd;

(e)hysbysu’r person am yr hawl i ofyn am adolygiad a’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan Ran 8 o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3