xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4LL+CCOSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunyddLL+C

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62LL+C

(1)Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 63 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3