RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON
Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru
I2I166Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru
1
Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
a
adran 35(2) (cais cofrestru);
b
adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);
c
adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).
2
Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.