xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.
(2)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.
(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 67 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(u)