xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.
(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.
(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 69 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3