Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

78Amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵpLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir dynodi corff corfforaethol yn aelod o grŵp onid yw—

(a)yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny, a

(b)o dan yr un rheolaeth â phob aelod arall o’r grŵp.

(2)Mae dau gorff corfforaethol neu ragor o dan yr un rheolaeth os yw—

(a)un ohonynt yn rheoli’r lleill i gyd,

(b)un corff corfforaethol neu unigolyn yn eu rheoli hwy i gyd, neu

(c)dau unigolyn neu ragor sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth yn eu rheoli hwy i gyd.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae un corff corfforaethol (“A”) yn rheoli corff corfforaethol arall (“B”) os yw—

(i)y pŵer i reoli gweithgareddau B yn cael ei roi i A gan neu o dan ddeddfiad, neu

(ii)A yn gwmni daliannol i B;

(b)mae unigolyn neu unigolion yn rheoli corff corfforaethol pe byddai neu pe byddent, pe bai’r unigolyn neu’r unigolion yn gwmni, yn gwmni daliannol i’r corff.

(4)Yn is-adran (3), mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), ac Atodlen 6 iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 78 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(w)