RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG
Grwpiau corfforaethol
I1I279Amrywio neu ganslo dynodiad
1
Pan fo dau gorff corfforaethol neu ragor wedi eu dynodi’n grŵp, caiff ACC—
a
amrywio dynodiad y grŵp drwy—
i
ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith;
ii
newid yr aelod cynrychiadol;
b
canslo dynodiad y grŵp.
2
Ond rhaid i ACC—
a
amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu aelod ymaith os yw wedi ei fodloni nad yw’r aelod yn bodloni’r amodau yn adran 78(1);
b
canslo dynodiad y grŵp os yw wedi ei fodloni nad oes gan y grŵp ddau aelod neu ragor sy’n bodloni’r amodau hynny.
3
Caiff dynodiad ei amrywio neu ei ganslo drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos amrywio er mwyn ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith, bob aelod a ychwanegir neu a dynnir ymaith).
4
Rhaid i’r hysbysiad—
a
nodi manylion yr amrywiad neu’r canslo, a
b
pennu ar ba ddyddiad y mae’n cael effaith.
5
Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad grŵp—
a
ar ôl cael cais a gyflwynir mewn ysgrifen o dan yr adran hon, neu
b
ar ei gymhelliad ei hun.
6
Caiff aelod cynrychiadol grŵp wneud cais i amrywio neu ganslo dynodiad y grŵp; ond rhaid i’r aelod cynrychiadol fodloni ACC y gwneir y cais gyda chytundeb pob aelod arall o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos cais i amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu aelod, yr aelod a fyddai’n cael ei ychwanegu pe bai’r amrywiad yn cael ei wneud).
7
Caiff aelod sy’n dymuno cael ei dynnu ymaith hefyd wneud cais i amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu’r aelod ymaith; mewn achos o’r fath, rhaid i’r aelod hwnnw fodloni ACC bod pob aelod arall o’r grŵp wedi ei hysbysu am y cais.
8
Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio neu ganslo dynodiad, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff corfforaethol a wnaeth y cais.