xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 6LL+CACHOSION ARBENNIG

Partneriaethau a chyrff anghorfforedigLL+C

82Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

(2)Caiff ACC gofrestru’r personau o dan eu henwau eu hunain neu o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff.

(3)Pan fo’r personau wedi eu cofrestru o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.

(4)Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod hyd y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 36.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (rhwymedigaeth ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 82 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(w)