RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG
Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
I1I283Dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig
1
Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
2
Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.
3
Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
4
Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.
5
Aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—
a
pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg;
b
os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;
c
os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff.
6
Mae rhwymedigaeth i dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.
7
Ond pan fo—
a
personau yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, a
b
person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig,
rhwymedigaeth bersonol y person am y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r rhwymedigaeth sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
8
Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—
a
swm o dreth;
b
cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;
F1ba
swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;
c
llog ar swm o fewn paragraff (a) F2, (b) neu (ba).