(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person (“A”) yn rhedeg busnes tirlenwi person arall (“B”) sydd wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn destun gweithdrefn ansolfedd.
(2)Rhaid i A roi hysbysiad i ACC ynglŷn ag—
(a)y ffaith bod A yn rhedeg y busnes tirlenwi, a
(b)natur a dyddiad y digwyddiad sydd wedi arwain at y ffaith bod A yn ei redeg.
(3)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi.
(4)Caiff ACC drin A fel pe bai A yn B at ddibenion y dreth, gydag effaith o’r adeg y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi; a chaiff ACC wneud hynny pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (2) ai peidio.
(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i drin A fel pe bai’n B.
(6)Os yw ACC yn trin A yn y fath fodd, nid yw’n ofynnol i A fod yn gofrestredig, na gwneud cais i gael ei gofrestru, yn rhinwedd y driniaeth honno.
(7)Os yw—
(a)B yn peidio â bod yn analluog neu’n destun gweithdrefn ansolfedd, neu
(b)A yn peidio â rhedeg busnes tirlenwi B,
rhaid i A roi hysbysiad i ACC am y ffaith honno a’r dyddiad y digwyddodd hynny.
(8)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
(9)Rhaid i ACC beidio â thrin A fel pe bai’n B os yw—
(a)ACC wedi ei fodloni bod y naill neu’r llall o’r amodau yn is-adran (7) wedi ei fodloni (pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan yr is-adran honno ai peidio), neu
(b)ACC yn canslo cofrestriad B.
(10)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i beidio â thrin A fel pe bai’n B.
(11)At ddibenion yr adran hon, daw person yn destun gweithdrefn ansolfedd—
(a)os gwneir y person yn fethdalwr;
(b)os yw trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r person o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45);
(c)os yw’r person yn mynd i ddwylo’r gweinyddwr neu’n destun datodiad neu dderbynyddiad;
(d)os yw unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 85 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3