RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 7AMRYWIOL
Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth
I1I288Addasu contractau
1
Pan fo—
a
gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,
b
contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac
c
ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,
mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.
2
At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.
3
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—
a
newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,
b
newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu
c
newid yn swm y dreth sydd i’w godi.