I11Trosolwg
1
Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.
2
Mae adran 2 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i brynu hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau i’r cyfyngiad hwnnw.
3
Mae adran 4 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i gaffael hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad hwnnw.
4
Mae adran 6 yn gwneud darpariaeth i’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael beidio â bodoli yng Nghymru.
5
Mae adran 7 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i roi grantiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr preifat cofrestredig tai cymdeithasol mewn cysylltiad â disgowntiau a roddir i denantiaid sy’n prynu eu hanheddau.
6
Mae adran 8—
a
yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i landlordiaid a phersonau eraill sydd â buddiant ynglŷn â newidiadau i’r gyfraith a wneir gan y Ddeddf hon, a
b
yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi gwybod i’w tenantiaid am y newidiadau hynny.
7
Mae adrannau 9, 10, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â’r Ddeddf; effaith adran 11 yw—
a
bod adran 8 (darparu gwybodaeth) yn dod i rym pan geir y Cydsyniad Brenhinol,
b
bod adrannau 2 i 5 (cyfyngu ar arfer yr hawliau) yn dod i rym ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, ac
c
y caniateir dod ag adrannau 6 a 7 (diddymu’r hawliau etc.) i rym drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol heb fod yn gynharach na deuddeg mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.
Cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael
F12Cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23Eithriadau i’r cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F34Cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F45Eithriad i’r cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael
I2I86Diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael
1
Nid yw’r hawliau a ganlyn yn bodoli mwyach mewn perthynas ag anheddau yng Nghymru—
a
yr hawl i gaffael rhydd-ddaliad tŷ annedd, na’r hawl i gael les ar dŷ annedd, yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (Housing Act 1985 (c. 68)) (yr hawl i brynu);
b
yr hawl i gaffael annedd yn unol ag adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) (yr hawl i gaffael).
2
Yn unol â hynny, diddymir y deddfiadau a ganlyn—
a
adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu etc.), ac adrannau 121ZA, 121ZB a 171B(7) o Ddeddf Tai 1985 (a fewnosodir gan adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon);
b
adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael etc.), ac adrannau 16B, 16C ac 21(2A) o Ddeddf Tai 1996 (a fewnosodir gan adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon);
c
adran 8 o’r Ddeddf hon.
3
Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.
Grantiau disgownt
I3I97Dileu’r pŵer i roi grantiau mewn cysylltiad â disgowntiau
1
Mae Deddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Mae adran 21 (grant prynu gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwaredu anheddau am bris gostyngol ac eithrio yn unol â’r hawl i gaffael) wedi ei diddymu.
Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid
F58Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cyffredinol
I49Pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol etc.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, ddarfodol neu drosiannol neu unrhyw ddarpariaeth arbed y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i, neu at ddiben rhoi effaith lawn i, unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir oddi tani (pa un ai o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) neu oddi tani, neu fel arall).
I510Darparieth bellach ynghylch rheoliadau o dan adran 9
1
Mae’r pŵer yn adran 9 i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Caiff rheoliadau o dan adran 9 ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth o’r Ddeddf hon).
3
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, ni chaniateir i reoliadau o dan adran 9 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
4
Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 9 yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pa un a yw’r offeryn statudol yn cynnwys unrhyw reoliadau eraill ai peidio.
5
Pan na fo is-adran (3) yn gymwys, mae rheoliadau o dan adran 9 yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
I611Dod i rym
1
Daw’r adran hon ac adrannau 1, 8, 9, 10 a 12 i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
3
Daw adrannau 6 a 7 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
4
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnod i unrhyw un neu ragor o adrannau 6 neu 7 ddod i rym sydd cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
5
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon wneud darpariaeth ddarfodol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.
I712Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.