xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.
(2)Mae adran 2 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i brynu hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau i’r cyfyngiad hwnnw.
(3)Mae adran 4 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i gaffael hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad hwnnw.
(4)Mae adran 6 yn gwneud darpariaeth i’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael beidio â bodoli yng Nghymru.
(5)Mae adran 7 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i roi grantiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr preifat cofrestredig tai cymdeithasol mewn cysylltiad â disgowntiau a roddir i denantiaid sy’n prynu eu hanheddau.
(6)Mae adran 8—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i landlordiaid a phersonau eraill sydd â buddiant ynglŷn â newidiadau i’r gyfraith a wneir gan y Ddeddf hon, a
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi gwybod i’w tenantiaid am y newidiadau hynny.
(7)Mae adrannau 9, 10, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â’r Ddeddf; effaith adran 11 yw—
(a)bod adran 8 (darparu gwybodaeth) yn dod i rym pan geir y Cydsyniad Brenhinol,
(b)bod adrannau 2 i 5 (cyfyngu ar arfer yr hawliau) yn dod i rym ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, ac
(c)y caniateir dod ag adrannau 6 a 7 (diddymu’r hawliau etc.) i rym drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol heb fod yn gynharach na deuddeg mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 2 wedi ei diddymu (26.1.2019) gan Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), aau. 6(2)(a), 11(3)(4); O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2A. 3 wedi ei diddymu (26.1.2019) gan Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), aau. 6(2)(a), 11(3)(4); O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F3A. 4 wedi ei diddymu (26.1.2019) gan Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), aau. 6(2)(b), 11(3)(4); O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F4A. 5 wedi ei diddymu (26.1.2019) gan Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), aau. 6(2)(b), 11(3)(4); O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
(1)Nid yw’r hawliau a ganlyn yn bodoli mwyach mewn perthynas ag anheddau yng Nghymru—
(a)yr hawl i gaffael rhydd-ddaliad tŷ annedd, na’r hawl i gael les ar dŷ annedd, yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (Housing Act 1985 (c. 68)) (yr hawl i brynu);
(b)yr hawl i gaffael annedd yn unol ag adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) (yr hawl i gaffael).
(2)Yn unol â hynny, diddymir y deddfiadau a ganlyn—
(a)adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu etc.), ac adrannau 121ZA, 121ZB a 171B(7) o Ddeddf Tai 1985 (a fewnosodir gan adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon);
(b)adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael etc.), ac adrannau 16B, 16C ac 21(2A) o Ddeddf Tai 1996 (a fewnosodir gan adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon);
(c)adran 8 o’r Ddeddf hon.
(3)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)
I3A. 6 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3)
(1)Mae Deddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Mae adran 21 (grant prynu gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwaredu anheddau am bris gostyngol ac eithrio yn unol â’r hawl i gaffael) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)
I5A. 7 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F5A. 8 wedi ei diddymu (26.1.2019) gan Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), aau. 6(2)(c), 11(3)(4); O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, ddarfodol neu drosiannol neu unrhyw ddarpariaeth arbed y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i, neu at ddiben rhoi effaith lawn i, unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir oddi tani (pa un ai o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) neu oddi tani, neu fel arall).
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 9 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)
(1)Mae’r pŵer yn adran 9 i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Caiff rheoliadau o dan adran 9 ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth o’r Ddeddf hon).
(3)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, ni chaniateir i reoliadau o dan adran 9 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(4)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 9 yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pa un a yw’r offeryn statudol yn cynnwys unrhyw reoliadau eraill ai peidio.
(5)Pan na fo is-adran (3) yn gymwys, mae rheoliadau o dan adran 9 yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 10 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)
(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 8, 9, 10 a 12 i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3)Daw adrannau 6 a 7 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnod i unrhyw un neu ragor o adrannau 6 neu 7 ddod i rym sydd cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(5)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon wneud darpariaeth ddarfodol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 11 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 12 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)