xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CDIWYGIADAU A DIDDYMIADAU CANLYNIADOL

Deddf Tai 2004 (Housing Act 2004 (c. 34))LL+C

5(1)Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 192 (hawl i brynu: atal drwy orchymyn llys), yn is-adran (3), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)section 184 of the Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17) (application of that Part in relation to the right to acquire a dwelling in England),.

(3)Yn adran 194 (datgelu gwybodaeth am orchmynion etc. mewn cysylltiad ag ymddygiad gwrthgymdeithasol), yn is-adran (4), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)section 184 of the Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17) (application of that Part in relation to the right to acquire a dwelling in England),.

(4)Mae adran 202 (hawl tenant sicr i gaffael annedd nad yw rhyddfraint ar y cyd yn effeithio arni) wedi ei diddymu.

(5)Mae adran 221 (estyn yr hawl i gaffael) wedi ei diddymu.

(6)Yn Atodlen 11 (landlordiaid cymdeithasol cofrestredig), hepgorer paragraffau 9 a 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I2Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)