xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)Mae adran 2 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i brynu hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau i’r cyfyngiad hwnnw.

(3)Mae adran 4 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i gaffael hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad hwnnw.

(4)Mae adran 6 yn gwneud darpariaeth i’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael beidio â bodoli yng Nghymru.

(5)Mae adran 7 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i roi grantiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr preifat cofrestredig tai cymdeithasol mewn cysylltiad â disgowntiau a roddir i denantiaid sy’n prynu eu hanheddau.

(6)Mae adran 8—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i landlordiaid a phersonau eraill sydd â buddiant ynglŷn â newidiadau i’r gyfraith a wneir gan y Ddeddf hon, a

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi gwybod i’w tenantiaid am y newidiadau hynny.

(7)Mae adrannau 9, 10, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â’r Ddeddf; effaith adran 11 yw—

(a)bod adran 8 (darparu gwybodaeth) yn dod i rym pan geir y Cydsyniad Brenhinol,

(b)bod adrannau 2 i 5 (cyfyngu ar arfer yr hawliau) yn dod i rym ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, ac

(c)y caniateir dod ag adrannau 6 a 7 (diddymu’r hawliau etc.) i rym drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol heb fod yn gynharach na deuddeg mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)