RHAN 1TROSOLWG

I11Trosolwg o’r Ddeddf hon

1

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn sefydlu’r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc; mae iddi 5 pennod.

2

Mae Pennod 1 (adrannau 2 i 9)—

a

yn rhoi ystyr y termau allweddol “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (adrannau 2 a 3);

b

yn darparu ar gyfer cod ymarfer ar anghenion dysgu ychwanegol (adrannau 4 a 5);

c

yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfranogiad plant, eu rhieni a phobl ifanc mewn penderfyniadau, ynghylch rhoi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd, ac ynghylch mynediad at wybodaeth am y system anghenion dysgu ychwanegol a sefydlir gan Ran 2 (adrannau 6 i 9).

3

Mae Pennod 2 (adrannau 10 i 46) yn darparu ar gyfer cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

4

Gwneir darpariaeth i’r cynlluniau gael eu llunio a’u cynnal gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach neu awdurdodau lleol; ac i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod a chanddo’r ddyletswydd i gynnal y cynllun sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd yn y cynllun.

5

Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (adrannau 15 i 19) a phlant a phobl ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac sydd wedi eu gosod mewn mathau penodol o lety cadw ieuenctid (adrannau 39 i 45).

6

Gwneir darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd penodol—

a

ystyried, ar atgyfeiriad gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol, a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol y gallent ei darparu neu ei ddarparu sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc ac, os felly, sicrhau y darperir y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw (adrannau 20 a 21);

b

penodi swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig (adran 61);

c

hysbysu rhieni ac awdurdodau lleol pan fônt yn ffurfio’r farn bod gan blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol, neu ei bod yn debygol bod gan blentyn o’r fath, anghenion dysgu ychwanegol (adran 64).

7

Mae Pennod 3 (adrannau 47 i 67) yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer swyddogaethau sy’n ymwneud â diwallu anghenion dysgu ychwanegol ac mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, gan gynnwys—

a

dyletswydd ar awdurdodau lleol i ffafrio addysg mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (adran 51);

b

darpariaeth sy’n newid y system gofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o’r ysgolion cofrestredig sy’n nodi’r math neu’r mathau o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ysgol annibynnol yn ei gwneud (adran 54);

c

darpariaeth sy’n cyfyngu ar bŵer awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant neu bobl ifanc mewn ysgolion annibynnol i ysgolion annibynnol cofrestredig (adran 55);

d

dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, a darpariaeth sy’n cyfyngu ar bŵer awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath i’r rheini ar y rhestr (adran 56);

e

dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach i benodi cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (adran 60);

f

dyletswydd ar gyrff iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a chyrff eraill i ddarparu gwybodaeth a help arall i awdurdodau lleol sy’n gofyn amdano (adran 65).

8

Mae Pennod 4 (adrannau 68 i 81) yn gwneud darpariaeth ynghylch osgoi a datrys anghytundebau; mae’n darparu ar gyfer—

a

trefniadau awdurdodau lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau (adran 68);

b

gwasanaethau eirioli annibynnol (adran 69);

c

yr hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau o ran pa un a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio, cynnwys cynlluniau datblygu unigol a phenderfyniadau eraill sy’n ymwneud â chynlluniau (adrannau 70 a 72).

9

Mae Pennod 5 (adrannau 82 i 90) yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys—

a

pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch datgelu a defnyddio gwybodaeth (adran 82);

b

dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben rhoi effaith i Ran 2 mewn achos pan na fo gan riant plentyn, neu pan na fo gan berson ifanc, alluedd (adran 83);

c

darpariaeth i ddatgymhwyso dyletswyddau penodol i hysbysu plentyn neu i roi gwybod i blentyn, neu i gymryd camau yn dilyn cais gan blentyn, pan na fo gan y plentyn alluedd a phan na fo ganddo gyfaill achos (adran 84);

d

darpariaeth ynghylch cyfeillion achos ar gyfer plant nad oes ganddynt alluedd (adran 85).

10

Mae Rhan 3 (adrannau 91 i 94) yn parhau â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac yn ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

11

Yn ogystal â’r awdurdodaeth a nodir ym Mhennod 4, mae gan y Tribiwnlys Addysg awdurdodaeth mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion (am ddarpariaeth ynghylch hyn, gweler adran 116 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) ac Atodlen 17 i’r Ddeddf honno).

12

Mae Rhan 4 (adrannau 95 i 101) yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “yn ardal” awdurdod lleol at ddibenion y Deddfau Addysg (adran 95) ac yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch dehongli sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf (adran 99).