RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD
Cod ymarfer
4Cod anghenion dysgu ychwanegol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.
2
Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.
3
Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—
a
awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;
b
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
c
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
d
perchennog Academi;
e
tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
f
person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;
g
Bwrdd Iechyd Lleol;
h
ymddiriedolaeth GIG;
i
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
j
grŵp comisiynu clinigol;
k
ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
l
Awdurdod Iechyd Arbennig.
4
Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.
5
Caiff y cod osod gofynion—
a
ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
b
ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—
i
penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,
ii
llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu
iii
peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;
c
ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.
6
Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—
a
gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;
b
gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;
c
gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.
7
Caiff y cod wneud—
a
darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a
b
darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,
mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).
8
Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).
9
Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; ac yn yr is-adran hon mae i “data personol” a “testun y data” yr ystyr a roddir i “personal data” a “data subject” gan Ddeddf Diogelu Data 1998 (p. 29).
10
Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.
11
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.
5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod
1
Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—
a
pob awdurdod lleol;
b
corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;
c
corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;
d
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
e
Comisiynydd Plant Cymru;
f
Comisiynydd y Gymraeg;
g
y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;
h
unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—
a
rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a
b
daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
5
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
b
gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.
6
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.
7
Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.