RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaeth

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

a

i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

b

i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

c

i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

1

Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

2

At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—

a

fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

b

yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

3

Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

4

Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

5

Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

a

awdurdod lleol;

b

corff GIG.

8Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

1

Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad A/RES/61/106 y Cynulliad Cyffredinol ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007 (“y Confensiwn”).

2

Mae’r Confensiwn i’w drin fel petai iddo effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

3

Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

4

Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

5

Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

a

awdurdod lleol;

b

corff GIG.

9Cyngor a gwybodaeth

1

Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan y Rhan hon.

2

Wrth wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i wybodaeth a chyngor a ddarperir o dan y trefniadau gael eu darparu mewn modd diduedd.

3

Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau a wneir o dan yr adran hon, adrannau 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn hysbys i—

a

plant a phobl ifanc yn ei ardal,

b

rhieni plant yn ei ardal,

c

plant y mae’n gofalu amdanynt sydd y tu allan i’w ardal,

d

cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal,

e

cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn ei ardal,

f

cyfeillion achos plant yn ei ardal, ac

g

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

4

Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i—

a

disgyblion yr ysgol a’u rhieni, a

b

cyfeillion achos y disgyblion.

5

Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i fyfyrwyr y sefydliad.