RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Termau allweddol

2Anghenion dysgu ychwanegol

1

Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

2

Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

a

os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

b

os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

3

Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

4

Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

5

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

3Darpariaeth ddysgu ychwanegol

1

Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—

a

mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

b

mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu

c

mewn mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

2

Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

3

Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

4

Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i roi cyfeiriadau at oedran gwahanol yn lle’r cyfeiriadau at dair oed.

5

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

Cod ymarfer

4Cod anghenion dysgu ychwanegol

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

2

Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

3

Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—

a

awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

b

corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

c

corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

d

perchennog Academi;

e

tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

f

person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

g

Bwrdd Iechyd Lleol;

h

ymddiriedolaeth GIG;

i

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

j

grŵp comisiynu clinigol;

k

ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

l

Awdurdod Iechyd Arbennig.

4

Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.

5

Caiff y cod osod gofynion—

a

ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

b

ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—

i

penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,

ii

llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu

iii

peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;

c

ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.

6

Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—

a

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

b

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

c

gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.

7

Caiff y cod wneud—

a

darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a

b

darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,

mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).

8

Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).

9

Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; ac yn yr is-adran hon mae i “data personol” a “testun y data” yr ystyr a roddir i “personal data” a “data subject” gan Ddeddf Diogelu Data 1998 (p. 29).

10

Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.

11

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.

5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod

1

Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—

a

pob awdurdod lleol;

b

corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;

c

corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;

d

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

e

Comisiynydd Plant Cymru;

f

Comisiynydd y Gymraeg;

g

y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;

h

unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

3

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—

a

rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a

b

daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

5

Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—

a

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.

6

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.

7

Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.

Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaeth

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

a

i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

b

i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

c

i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

1

Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

2

At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—

a

fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

b

yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

3

Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

4

Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

5

Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

a

awdurdod lleol;

b

corff GIG.

8Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

1

Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad A/RES/61/106 y Cynulliad Cyffredinol ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007 (“y Confensiwn”).

2

Mae’r Confensiwn i’w drin fel petai iddo effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

3

Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

4

Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

5

Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

a

awdurdod lleol;

b

corff GIG.

9Cyngor a gwybodaeth

1

Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan y Rhan hon.

2

Wrth wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i wybodaeth a chyngor a ddarperir o dan y trefniadau gael eu darparu mewn modd diduedd.

3

Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau a wneir o dan yr adran hon, adrannau 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn hysbys i—

a

plant a phobl ifanc yn ei ardal,

b

rhieni plant yn ei ardal,

c

plant y mae’n gofalu amdanynt sydd y tu allan i’w ardal,

d

cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal,

e

cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn ei ardal,

f

cyfeillion achos plant yn ei ardal, ac

g

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

4

Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i—

a

disgyblion yr ysgol a’u rhieni, a

b

cyfeillion achos y disgyblion.

5

Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i fyfyrwyr y sefydliad.