xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu

26Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau o dan adran 11(1)

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi gwneud penderfyniad ynghylch disgybl cofrestredig o dan adran 11(1) neu wedi gwrthod gwneud penderfyniad o dan yr adran honno, a

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y mater.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(4)At ddibenion y Rhan hon, mae penderfyniad o dan is-adran (2) i gael ei drin fel penderfyniad o dan adran 13(1).

(5)Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad o dan is-adran (2), mae penderfyniad blaenorol y corff llywodraethu o dan adran 11(1) yn peidio â chael effaith.

27Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o gynlluniau a gynhelir o dan adran 12

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer disgybl cofrestredig o dan adran 12(1) neu 12(3), a

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y cynllun gyda golwg ar ei ddiwygio.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun a phenderfynu pa un ai i ddiwygio’r cynllun ai peidio.

(3)Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o hysbysiad o dan is-adran (4) i’r corff llywodraethu.

(6)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio, neu os gorchmynnir iddo ei ddiwygio gan Dribiwnlys Addysg Cymru, rhaid iddo lunio cynllun diwygiedig a naill ai—

(a)cyfarwyddo’r corff llywodraethu i’w gynnal, neu

(b)arfer y pŵer yn adran 28(6) i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu (am ddarpariaeth ynghylch eraill y mae rhaid rhoi copi iddynt, gweler adran 23(11)).

28Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidio

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a

(b)bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

(2)Y personau yw—

(a)y plentyn neu’r person ifanc,

(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu

(c)y corff llywodraethu.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.

(4)Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.

(5)Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(6)Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—

(a)penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(8)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—

(a)mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a

(b)nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,

o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).

29Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 26(2), 27(2) a 28(3) yn gymwys

(1)Yn dilyn cais o dan adran 26(1)(b), 27(1)(b) neu 28(1)(b), nid yw’r ddyletswydd yn adran 26(2), 27(2) neu 28(3) (yn ôl y digwydd) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad o’r blaen o dan yr un adran mewn perthynas â’r un plentyn neu’r un person ifanc a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers y penderfyniad blaenorol, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(b)bod y cais yn ymwneud â phlentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

30Cofrestru neu ymrestru mewn mwy nag un sefydliad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall, y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd) anghenion dysgu ychwanegol,

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt,

(d)na fo cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, ac

(e)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc er mwyn i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1).

(3)Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc,

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt, a

(d)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol yn lle’r corff llywodraethu ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

(5)Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn is-adran (4) yn cymryd effaith ar y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod o dan is-adran (6) neu pan ddaw’n ymwybodol fel arall fod yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn gymwys.

(6)Os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd), rhaid i’r corff llywodraethu roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc am y ffaith honno.

(7)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei bŵer i gyfarwyddo o dan is-adrannau (2)(b) neu (4) o adran 14 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn mwy nag un sefydliad (pa un a yw’n ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) os yw addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu iddo ym mhob un o’r sefydliadau hynny.