xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraill

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

(2)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;

(b)i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.

40Dyletswydd i lunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—

(a)y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.

(2)Rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.

(3)Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.

(4)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—

(a)llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(6)Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(7)Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

(8)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(9)O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

41Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys

(1)Nid yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys os yw’r un neu’r llall o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i benderfyniad o dan adran 40(2)(a) gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio;

(b)bod yr awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar benderfyniad o dan adran 40(2)(a) neu (b).

42Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r person yn gaeth—

(a)gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 12, neu

(b)gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 14 neu 19.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40(5).

(3)Os yw’r awdurdod cartref ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn awdurdod cartref yng Nghymru, rhaid i’r awdurdod cartref gadw’r cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(4)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i’r cynllun datblygu unigol gael ei gadw.

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â chynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gan awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod cartref, oni ddygir y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal i sylw’r awdurdod cartref.

(6)Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth a rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn ei fod yn cadw cynllun datblygu unigol tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(7)Rhaid i’r awdurdod cartref roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(8)Pan fo awdurdod cartref yn cadw cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)trefnu i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yn cael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol” yw—

(a)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun datblygu unigol,

(b)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’n ymarferol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun gael ei darparu, darpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, neu

(c)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn briodol mwyach ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol.

43Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau,

(b)yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y person ar y dyddiad rhyddhau, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3)Ond mae is-adran (4) yn gymwys yn lle is-adran (2)—

(a)os yw’r person sydd wedi ei ryddhau yn blentyn, a

(b)os yw’r plentyn, yn union wedi iddo gael ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

44Darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (2) ar y cyrff a ganlyn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd corff llywodraethu i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd corff llywodraethu i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 13 (dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu);

(d)adran 14 (dyletswydd awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun);

(e)adran 26 (dyletswydd awdurdod lleol i ailystyried penderfyniad corff llywodraethu);

(f)adran 30(2) (dyletswydd corff llywodraethu i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(g)adran 47(2) (dyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(3)Nid yw’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (4) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw—

(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)wedi ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn);

(d)adran 30(2) (dyletswydd i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(e)adran 47(2) (dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys hyd nes bod adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (cymhwyso darpariaethau i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol) yn dod i rym yn llawn o ran Cymru.

(6)Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i gael effaith at ddiben y pwerau a’r dyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon ar awdurdodau lleol fel pe bai adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) mewn grym yn llawn o ran Cymru.

(7)At ddibenion y Rhan hon, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) o adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) at lety ieuenctid perthnasol i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

45Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan, oherwydd adran 44 neu adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), na fo pwerau neu ddyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon i neu ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc—

(a)sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20).

(2)Caiff rheoliadau ddarparu i’r pwerau neu’r dyletswyddau hynny gael eu cymhwyso, gydag addasiad neu hebddo, mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.