xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

15Termau allweddol

(1)Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—

(a)os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”), a

(b)os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ragnodi categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad ydynt i gael eu trin fel pe baent yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Ystyr “swyddog adolygu annibynnol” yw’r swyddog a benodir o dan adran 99 o Ddeddf 2014 ar gyfer achos plentyn.

(4)Ystyr “cynllun addysg personol” yw’r cynllun sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a gynhelir ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 83(2A) o Ddeddf 2014.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

16Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

(1)Mae adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (cynlluniau gofal a chymorth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).

(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.

(2C)Os—

(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,

rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.

(2D)At ddibenion is-adran (2C)—

(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));

(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.

(4)Yn is-adran (4), yn lle “cynllun”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(5)Yn is-adran (5)—

(a)ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “cynlluniau o dan yr adran hon” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”;

(c)ym mharagraff (b), yn lle “mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys” rhodder “mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)”;

(d)ym mharagraff (c), yn lle “cynlluniau” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”.

(6)Yn is-adran (7), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(7)Yn is-adran (8), ym mharagraff (a), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(8)Yn is-adran (9), yn lle “gynllun a gynhelir o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.

(9)Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.

17Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn sy’n derbyn gofal sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, neu

(b)bo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano, ond sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol arall, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.

18Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 19;

(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

19Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wedi penderfynu o dan adran 18 fod gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun datblygu unigol y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(4)Os na ellir diwallu anghenion rhesymol y plentyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod yr awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun datblygu unigol.

(5)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(6)O ran y ddyletswydd yn is-adran (4)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

(7)Pan fo awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn, rhaid i’r awdurdod—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,

(b)sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (4), ac

(c)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn.

(8)Gweler adran 35 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sydd eisoes â chynlluniau pan ydynt yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.