RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Gwybodaeth am gynlluniauLL+C

22Darparu gwybodaeth am gynlluniau datblygu unigolLL+C

(1)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid iddo roi copi o’r cynllun—

(a)i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.

(2)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer plentyn neu berson ifanc gan gorff arall, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol—

(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc fod y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun, a

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn.

(3)Os yw awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal neu’n dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn gan gorff arall, rhaid iddo roi copi o’r cynllun i swyddog adolygu annibynnol y plentyn hefyd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 22 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 22 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 22 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I5A. 22 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 22 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I8A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I9A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I10A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I11A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I12A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I13A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I14A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4