RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol

10Cynlluniau datblygu unigol

At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol—

a

disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;

b

disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;

c

unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.

11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

1

Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

2

Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

3

Yr amgylchiadau yw—

a

bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

b

bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—

i

nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

ii

nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

c

bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

d

bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;

e

bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

4

Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

a

y penderfyniad, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

5

Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

12Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

1

Os yw corff llywodraethu yn penderfynu o dan adran 11 fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo—

a

llunio cynllun datblygu unigol ar ei gyfer, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys, a

b

cynnal y cynllun, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

2

Yr amgylchiadau yw—

a

bod y corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol—

i

a all alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau,

ii

na all y corff llywodraethu bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol, neu

iii

na all y corff llywodraethu bennu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eu cyfer yn ddigonol,

a bod y corff llywodraethu yn atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1);

b

bod y cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal;

c

bod y corff llywodraethu yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a bod yr awdurdod, yn rhinwedd y cais neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno);

d

bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

3

Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei gyfarwyddo i lunio a chynnal, neu i gynnal, cynllun datblygu unigol ar gyfer person o dan adran 14(2)(b), 14(4) neu 27(6)(a), rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal, neu gynnal, y cynllun (yn ôl y digwydd), oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

4

Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi cytuno i gais o dan adran 36(2) i ddod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36(4) y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, rhaid i’r corff llywodraethu gynnal y cynllun oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

5

Os yw’r corff llywodraethu, yn dilyn cais o dan is-adran (2)(c), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

6

Rhaid i gorff llywodraethu sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

a

ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

b

os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

7

Rhaid i gorff llywodraethu—

a

sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon, a

b

os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.

13Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleol

1

Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

2

Yr amgylchiadau yw—

a

bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

b

bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

i

nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

ii

nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

c

bod adran 11(1) yn gymwys a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod penderfyniad ynghylch pa un a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio yn cael ei wneud o dan yr adran honno;

d

bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

e

bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc—

i

sy’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a

ii

nad yw hefyd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad arall yn y sector addysg bellach neu’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol,

ac na wnaed cais mewn cysylltiad â’r person ifanc i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a).

3

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, am—

a

y penderfyniad, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adrannau 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn) ac 18 (dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol)).

14Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: awdurdodau lleol

1

Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac—

a

yn achos plentyn, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol,

b

yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu

c

yn achos unrhyw berson ifanc arall, os yw’r awdurdod lleol—

i

yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, a

ii

yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adra 46 fod angen llunio a chynnal cynllun o dan yr adran hon ar gyfer y person ifanc i ddiwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol—

a

llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw, neu

b

os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu i fod yn ddisgybl cofrestredig, mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod yr awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol—

i

llunio cynllun datblygu unigol a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun, neu

ii

cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio a chynnal cynllun.

3

Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw’r cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal.

4

Caiff awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun.

5

Rhaid i awdurdod leol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu sy’n ailystyried cynllun o dan adran 27—

a

ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

b

os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

6

Os na ellir diwallu anghenion rhesymol plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (7), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

7

Y mathau o ddarpariaeth yw—

a

lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

b

bwyd a llety.

8

O ran y ddyletswydd yn is-adran (6)—

a

nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

b

mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

9

Os yw’r ddyletswydd yn is-adran (6) yn gymwys i awdurdod lleol, ni chaiff roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b) neu (4).

10

Pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r awdurdod—

a

sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,

b

sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (6), ac

c

os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.