Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Trosglwyddo cynlluniauLL+C

35Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniauLL+C

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,

(b)yn union cyn i’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir, ac

(c)na fwriedir i addysg neu hyfforddiant barhau i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol arall honno.

(2)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol arall ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (2) (a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(4)Mae is-adran (6) yn gymwys os—

(a)yw person ifanc yn ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(5)Yn is-adran (4)(a) a (b), ystyr “blwyddyn academaidd” yw unrhyw gyfnod rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf.

(6)Rhaid i gorff llywodraethu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os—

(a)yw awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, a

(b)yn union cyn i’r awdurdod ddod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 14 gan awdurdod lleol arall.

(8)Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir yn is-adran (7)(a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

(9)Mae is-adran (10) yn gymwys os—

(a)yw plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)yn union cyn i’r plentyn ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 12 neu 14.

(10)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

(11)Mae is-adran (12) a (13) yn gymwys os—

(a)yw person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)),

(b)yw awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, ac

(c)yn union cyn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 19.

(12)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol.

(13)Mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 35 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 35 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 35 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I5A. 35 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I6A. 35 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I7A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I8A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I9A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I10A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I11A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I12A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I13A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I14A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

36Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Caiff yr awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu’r sefydliad ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chytuno i’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylai corff llywodraethu’r sefydliad addysg bellach gynnal y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I16A. 36 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(d)

I17A. 36 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I18A. 36 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I19A. 36 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I20A. 36 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I21A. 36 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I22A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I23A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I24A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I25A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I26A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I27A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I28A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I29A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

37Rheoliadau ynghylch trosglwyddo cynlluniau datblygu unigolLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy⁠—

(a)trosglwyddo o dan adran 35 ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc;

(b)gwneud cais o dan adran 36, atgyfeiriad neu benderfyniad o dan yr adran honno a throsglwyddo dyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc yn dilyn cais neu benderfyniad o’r fath;

(c)trosglwyddo o dan amgylchiadau rhagnodedig ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

(i)o un awdurdod lleol i awdurdod lleol arall;

(ii)o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir neu sefydliad arall yn y sector addysg bellach;

(iii)o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i awdurdod lleol;

(iv)o awdurdod lleol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach.

(2)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I31A. 37 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(c)