RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Trosglwyddo cynlluniau

35Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau

1

Mae is-adran (3) yn gymwys os—

a

yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,

b

yn union cyn i’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir, ac

c

na fwriedir i addysg neu hyfforddiant barhau i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol arall honno.

2

Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os—

a

yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

b

oedd y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

c

oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol arall ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

3

Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (2) (a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

4

Mae is-adran (6) yn gymwys os—

a

yw person ifanc yn ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

b

oedd y person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

c

oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

5

Yn is-adran (4)(a) a (b), ystyr “blwyddyn academaidd” yw unrhyw gyfnod rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf.

6

Rhaid i gorff llywodraethu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

7

Mae is-adran (8) yn gymwys os—

a

yw awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, a

b

yn union cyn i’r awdurdod ddod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 14 gan awdurdod lleol arall.

8

Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir yn is-adran (7)(a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

9

Mae is-adran (10) yn gymwys os—

a

yw plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

b

yn union cyn i’r plentyn ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 12 neu 14.

10

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

11

Mae is-adran (12) a (13) yn gymwys os—

a

yw person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)),

b

yw awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, ac

c

yn union cyn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 19.

12

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol.

13

Mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

36Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

2

Caiff yr awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu’r sefydliad ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun.

3

Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chytuno i’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylai corff llywodraethu’r sefydliad addysg bellach gynnal y cynllun.

37Rheoliadau ynghylch trosglwyddo cynlluniau datblygu unigol

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy⁠—

a

trosglwyddo o dan adran 35 ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc;

b

gwneud cais o dan adran 36, atgyfeiriad neu benderfyniad o dan yr adran honno a throsglwyddo dyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc yn dilyn cais neu benderfyniad o’r fath;

c

trosglwyddo o dan amgylchiadau rhagnodedig ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

i

o un awdurdod lleol i awdurdod lleol arall;

ii

o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir neu sefydliad arall yn y sector addysg bellach;

iii

o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i awdurdod lleol;

iv

o awdurdod lleol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach.

2

Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad yng Nghymru.