RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL
Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol
10Cynlluniau datblygu unigol
At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol—
a
disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;
b
disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;
c
unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.
11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
1
Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
2
Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
3
Yr amgylchiadau yw—
a
bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;
b
bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—
i
nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
ii
nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
c
bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;
d
bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;
e
bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
4
Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
5
Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
12Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
1
Os yw corff llywodraethu yn penderfynu o dan adran 11 fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo—
a
llunio cynllun datblygu unigol ar ei gyfer, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys, a
b
cynnal y cynllun, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
2
Yr amgylchiadau yw—
a
bod y corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol—
i
a all alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau,
ii
na all y corff llywodraethu bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol, neu
iii
na all y corff llywodraethu bennu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eu cyfer yn ddigonol,
a bod y corff llywodraethu yn atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1);
b
bod y cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal;
c
bod y corff llywodraethu yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a bod yr awdurdod, yn rhinwedd y cais neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno);
d
bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
3
Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei gyfarwyddo i lunio a chynnal, neu i gynnal, cynllun datblygu unigol ar gyfer person o dan adran 14(2)(b), 14(4) neu 27(6)(a), rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal, neu gynnal, y cynllun (yn ôl y digwydd), oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
4
Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi cytuno i gais o dan adran 36(2) i ddod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36(4) y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, rhaid i’r corff llywodraethu gynnal y cynllun oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
5
Os yw’r corff llywodraethu, yn dilyn cais o dan is-adran (2)(c), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
6
Rhaid i gorff llywodraethu sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—
a
ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a
b
os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
7
Rhaid i gorff llywodraethu—
a
sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon, a
b
os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.
13Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleol
1
Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
2
Yr amgylchiadau yw—
a
bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;
b
bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—
i
nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
ii
nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
c
bod adran 11(1) yn gymwys a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod penderfyniad ynghylch pa un a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio yn cael ei wneud o dan yr adran honno;
d
bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;
e
bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc—
i
sy’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a
ii
nad yw hefyd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad arall yn y sector addysg bellach neu’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol,
ac na wnaed cais mewn cysylltiad â’r person ifanc i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a).
3
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
4
Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adrannau 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn) ac 18 (dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol)).
14Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: awdurdodau lleol
1
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac—
a
yn achos plentyn, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol,
b
yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu
c
yn achos unrhyw berson ifanc arall, os yw’r awdurdod lleol—
i
yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, a
ii
yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adra 46 fod angen llunio a chynnal cynllun o dan yr adran hon ar gyfer y person ifanc i ddiwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol—
a
llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw, neu
b
os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu i fod yn ddisgybl cofrestredig, mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod yr awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol—
i
llunio cynllun datblygu unigol a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun, neu
ii
cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio a chynnal cynllun.
3
Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw’r cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal.
4
Caiff awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun.
5
Rhaid i awdurdod leol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu sy’n ailystyried cynllun o dan adran 27—
a
ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a
b
os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
6
Os na ellir diwallu anghenion rhesymol plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (7), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.
7
Y mathau o ddarpariaeth yw—
a
lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
b
bwyd a llety.
8
O ran y ddyletswydd yn is-adran (6)—
a
nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
b
mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
9
Os yw’r ddyletswydd yn is-adran (6) yn gymwys i awdurdod lleol, ni chaiff roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b) neu (4).
10
Pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r awdurdod—
a
sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,
b
sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (6), ac
c
os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
15Termau allweddol
1
Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—
a
os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”), a
b
os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.
2
Caiff rheoliadau ragnodi categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad ydynt i gael eu trin fel pe baent yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.
3
Ystyr “swyddog adolygu annibynnol” yw’r swyddog a benodir o dan adran 99 o Ddeddf 2014 ar gyfer achos plentyn.
4
Ystyr “cynllun addysg personol” yw’r cynllun sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a gynhelir ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 83(2A) o Ddeddf 2014.
5
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
16Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
1
Mae adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (cynlluniau gofal a chymorth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
2A
Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).
2B
Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.
2C
Os—
a
oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a
b
yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,
rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.
2D
At ddibenion is-adran (2C)—
a
ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));
b
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
3
Yn is-adran (3), yn lle “y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
4
Yn is-adran (4), yn lle “cynllun”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
5
Yn is-adran (5)—
a
ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,”;
b
ym mharagraff (a), yn lle “cynlluniau o dan yr adran hon” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”;
c
ym mharagraff (b), yn lle “mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys” rhodder “mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)”;
d
ym mharagraff (c), yn lle “cynlluniau” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”.
6
Yn is-adran (7), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
7
Yn is-adran (8), ym mharagraff (a), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
8
Yn is-adran (9), yn lle “gynllun a gynhelir o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
9
Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
10
Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.
17Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
a
bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn sy’n derbyn gofal sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, neu
b
bo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano, ond sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol arall, anghenion dysgu ychwanegol.
2
Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.
18Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol
1
Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
2
Yr amgylchiadau yw—
a
bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 19;
b
bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
i
nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
ii
nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
c
bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
3
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
19Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
1
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wedi penderfynu o dan adran 18 fod gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
3
Rhaid i awdurdod lleol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano—
a
ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn, a
b
os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun datblygu unigol y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
4
Os na ellir diwallu anghenion rhesymol y plentyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod yr awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun datblygu unigol.
5
Y mathau o ddarpariaeth yw—
a
lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
b
bwyd a llety.
6
O ran y ddyletswydd yn is-adran (4)—
a
nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
b
mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
7
Pan fo awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn, rhaid i’r awdurdod—
a
sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,
b
sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (4), ac
c
os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn.
8
Gweler adran 35 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sydd eisoes â chynlluniau pan ydynt yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol a chyrff y GIG
20Darpariaeth ddysgu ychwanegol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG
1
Caiff y cyrff a bennir yn is-adran (2) atgyfeirio mater i gorff GIG, gan ofyn iddo ystyried a oes unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc.
2
Y cyrff yw—
a
pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â phlentyn, neu â pherson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, awdurdod lleol;
b
pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â pherson ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, y corff sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc.
3
Ond ni chaiff corff wneud atgyfeiriad o dan is-adran (1) oni bai—
a
ei fod wedi rhoi gwybod i’r plentyn neu i’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, ei fod yn bwriadu gwneud yr atgyfeiriad,
b
ei fod wedi rhoi cyfle i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, i drafod a ddylai’r atgyfeiriad gael ei wneud, ac
c
ei fod wedi ei fodloni bod gwneud yr atgyfeiriad er lles pennaf y plentyn neu’r person ifanc.
4
Os caiff mater ei atgyfeirio i gorff GIG o dan yr adran hon, rhaid i’r corff GIG ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc.
5
Os yw’r corff GIG yn nodi triniaeth neu wasanaeth o’r fath, rhaid iddo—
a
sicrhau’r driniaeth neu’r gwasanaeth ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,
b
penderfynu a ddylai’r driniaeth gael ei darparu neu a ddylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, ac
c
os yw’n penderfynu y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu i’r person ifanc, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei darparu neu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.
6
Yn yr adran hon, ac yn adran 21, ystyr “triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol” yw unrhyw driniaeth neu wasanaeth y byddai corff GIG fel arfer yn ei darparu neu yn ei ddarparu fel rhan o’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).
21Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG
1
Os yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—
a
rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw,
b
os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw, ac
c
os yw’n ystyried y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, roi gwybod i’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg.
2
Os nad yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—
a
rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y ffaith honno, a
b
os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y ffaith honno.
3
Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc fod triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol yn debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun ddisgrifio’r driniaeth neu’r gwasanaeth yn y cynllun, gan bennu bod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i gael ei sicrhau gan y corff GIG.
4
Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc y dylai triniaeth berthnasol gael ei darparu neu y dylai gwasanaeth perthnasol gael ei ddarparu yn Gymraeg i blentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun bennu yn y cynllun fod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddylai gael ei darparu yn Gymraeg.
5
Os yw cynllun datblygu unigol yn pennu o dan yr adran hon fod darpariaeth ddysgu ychwanegol i gael ei sicrhau gan gorff GIG, nid yw’r dyletswyddau a ganlyn yn gymwys i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno—
a
dyletswydd corff llywodraethu i sicrhau darpariaeth o dan adran 12(7) (gan gynnwys y ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg);
b
dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 14(10)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 14(10)(c);
c
dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 19(7)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 19(7)(c).
6
Ni chaniateir i’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir mewn cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau gael ei ddileu neu ei newid ond ar adolygiad o gynllun yn unol ag adran 23 neu 24 ac â chytundeb neu ar gais y corff GIG.
7
Os yw’r corff GIG, ar adolygiad o gynllun, yn gofyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc ddileu neu newid y disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae’r corff GIG i’w sicrhau, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais.
8
Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar bŵer Tribiwnlys Addysg Cymru i wneud gorchymyn o dan y Rhan hon.
9
Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gynllun datblygu unigol gael ei ddiwygio mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau, nid yw’n ofynnol i gorff GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ddiwygiedig oni bai ei fod yn cytuno i wneud hynny.
10
Rhaid i reoliadau ddarparu, pan fo corff GIG o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan is-adran (1) neu (2), fod rhaid iddo gydymffurfio â’r ddyletswydd honno o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.
Gwybodaeth am gynlluniau
22Darparu gwybodaeth am gynlluniau datblygu unigol
1
Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid iddo roi copi o’r cynllun—
a
i’r plentyn neu’r person ifanc, a
b
os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.
2
Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer plentyn neu berson ifanc gan gorff arall, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol—
a
rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc fod y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun, a
b
os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn.
3
Os yw awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal neu’n dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn gan gorff arall, rhaid iddo roi copi o’r cynllun i swyddog adolygu annibynnol y plentyn hefyd.
Adolygu cynlluniau
23Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol
1
Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ei adolygu cyn diwedd pob cyfnod adolygu.
2
Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun o dan adran 22.
3
Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig o dan is-adran (11) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
b
pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol—
i
â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
ii
â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan adran 27(4) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw.
4
Ond pan na fo’r un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.
5
Pan fo’n ofynnol rhoi copi o gynllun, cynllun diwygiedig neu hysbysiad o benderfyniad i fwy nag un person, mae’r cyfeiriad yn is-adrannau (2) a (3) at y dyddiad y’i rhoddir yn gyfeiriad at y dyddiad y rhoddir y cynllun, y cynllun diwygiedig neu’r hysbysiad o benderfyniad gyntaf.
6
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os, cyn diwedd y cyfnod hwnnw—
a
caiff y cynllun ei ailystyried gan awdurdod lleol o dan adran 27;
b
yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun, neu
c
yn achos cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i awdurdod lleol adolygu’r cynllun.
7
Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol y mae’n ofynnol iddo ei gynnal os—
a
yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a
b
yw’r corff GIG yn gofyn iddo adolygu’r cynllun.
8
Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn, gan riant y plentyn neu gan y person ifanc, oni bai ei fod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.
9
Caiff corff llywodraethu neu awdurdod lleol—
a
adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a
b
diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.
10
Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
11
Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon), rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig—
a
i’r plentyn neu i’r person ifanc, a
b
os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.
12
Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw cynllun datblygu unigol yn ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
24Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
1
Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun cyn diwedd pob cyfnod adolygu.
2
Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun gyntaf o dan adran 22.
3
Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig gyntaf o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu
b
pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol, â’r dyddiad yn ystod y cyfnod hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad gyntaf o dan is-adran (9) mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.
4
Ond pan na fo’r naill ddogfen na’r llall o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.
5
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw Tribiwnlys Addysg Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn gorchymyn i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun.
6
Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os—
a
yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a
b
yw’r corff GIG yn gofyn i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun.
7
Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn sy’n derbyn gofal neu gan riant y plentyn sy’n derbyn gofal, oni bai bod yr awdurdod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.
8
Caiff awdurdod lleol—
a
adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a
b
diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.
9
Os yw awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
10
Os yw awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol plentyn sy’n derbyn gofal (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), rhaid iddo roi copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig i—
a
y plentyn sy’n derbyn gofal,
b
rhiant y plentyn sy’n derbyn gofal, ac
c
swyddog adolygu annibynnol y plentyn sy’n derbyn gofal.
25Perthynas cynlluniau datblygu unigol â dogfennau tebyg eraill
Caiff corff llywodraethu neu awdurdod lleol—
a
llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan y Rhan hon ar yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, yn adolygu neu’n diwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a
b
cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun neu gynnwys y cynllun yn y ddogfen arall.
Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu
26Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau o dan adran 11(1)
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
a
bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi gwneud penderfyniad ynghylch disgybl cofrestredig o dan adran 11(1) neu wedi gwrthod gwneud penderfyniad o dan yr adran honno, a
b
bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y mater.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.
3
Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
4
At ddibenion y Rhan hon, mae penderfyniad o dan is-adran (2) i gael ei drin fel penderfyniad o dan adran 13(1).
5
Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad o dan is-adran (2), mae penderfyniad blaenorol y corff llywodraethu o dan adran 11(1) yn peidio â chael effaith.
27Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o gynlluniau a gynhelir o dan adran 12
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
a
bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer disgybl cofrestredig o dan adran 12(1) neu 12(3), a
b
bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y cynllun gyda golwg ar ei ddiwygio.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun a phenderfynu pa un ai i ddiwygio’r cynllun ai peidio.
3
Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
4
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
5
Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o hysbysiad o dan is-adran (4) i’r corff llywodraethu.
6
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio, neu os gorchmynnir iddo ei ddiwygio gan Dribiwnlys Addysg Cymru, rhaid iddo lunio cynllun diwygiedig a naill ai—
a
cyfarwyddo’r corff llywodraethu i’w gynnal, neu
b
arfer y pŵer yn adran 28(6) i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.
7
Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu (am ddarpariaeth ynghylch eraill y mae rhaid rhoi copi iddynt, gweler adran 23(11)).
28Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidio
1
Mae is-adran (3) yn gymwys pan—
a
bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a
b
bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.
2
Y personau yw—
a
y plentyn neu’r person ifanc,
b
yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu
c
y corff llywodraethu.
3
Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.
4
Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.
5
Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
6
Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.
7
Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—
a
penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
8
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—
a
mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a
b
nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,
o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).
29Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 26(2), 27(2) a 28(3) yn gymwys
1
Yn dilyn cais o dan adran 26(1)(b), 27(1)(b) neu 28(1)(b), nid yw’r ddyletswydd yn adran 26(2), 27(2) neu 28(3) (yn ôl y digwydd) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
2
Yr amgylchiadau yw—
a
bod yr awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad o’r blaen o dan yr un adran mewn perthynas â’r un plentyn neu’r un person ifanc a’i fod wedi ei fodloni—
i
nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers y penderfyniad blaenorol, a
ii
nad oes gwybodaeth newydd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
b
bod y cais yn ymwneud â phlentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
30Cofrestru neu ymrestru mewn mwy nag un sefydliad
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
a
bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall, y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd) anghenion dysgu ychwanegol,
b
bo’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
c
bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt,
d
na fo cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, ac
e
bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.
2
Rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc er mwyn i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1).
3
Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn gymwys pan—
a
bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc,
b
bo’r plentyn neu’r person ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
c
bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt, a
d
bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.
4
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol yn lle’r corff llywodraethu ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.
5
Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn is-adran (4) yn cymryd effaith ar y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod o dan is-adran (6) neu pan ddaw’n ymwybodol fel arall fod yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn gymwys.
6
Os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd), rhaid i’r corff llywodraethu roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc am y ffaith honno.
7
Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei bŵer i gyfarwyddo o dan is-adrannau (2)(b) neu (4) o adran 14 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn mwy nag un sefydliad (pa un a yw’n ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) os yw addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu iddo ym mhob un o’r sefydliadau hynny.
Peidio â chynnal cynlluniau
31Peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol
1
Mae dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys—
a
yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, neu
b
yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
2
Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys os yw’r plentyn ifanc yn peidio â bod wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.
3
Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol o dan adran 14 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn peidio â bod yn gymwys—
a
yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, neu
b
yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
4
Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 19 yn peidio â bod yn gymwys—
a
os yw’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion y Rhan hon (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)), neu
b
os yw’n peidio â bod yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
5
Pan fo gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff y corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun os yw’n penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach.
6
Pan fo gan awdurdod lleol ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff yr awdurdod beidio â chynnal y cynllun os yw’r awdurdod—
a
yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach, neu
b
yn achos person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.
7
Cyn i gorff llywodraethu benderfynu o dan is-adran (5), neu i awdurdod lleol benderfynu o dan is-adran (6), rhaid iddo hysbysu—
a
y plentyn neu’r person ifanc,
b
yn achos plentyn, rhiant y plentyn, ac
c
yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn
ei fod yn bwriadu gwneud penderfyniad o’r fath.
8
Ar ôl i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad, rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn ac, yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
9
A rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir hefyd hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am ei hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y mater o dan adran 32.
10
Gweler adran 44 (darpariaethau nad ydynt yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd i gynnal cynllun yn peidio.
32Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
a
bo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc wedi ei hysbysu am benderfyniad corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan adran 31, a
b
bo’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc yn gwneud cais o fewn cyfnod rhagnodedig i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, iddo benderfynu a ddylai dyletswydd y corff llywodraethu i gynnal y cynllun beidio.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai’r corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun.
3
Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu a‘r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
a
y penderfyniad, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
4
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei gynnal, rhaid i’r corff llywodraethu barhau i gynnal y cynllun.
5
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei gynnal, rhaid i’r corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun, yn ddarostyngedig i adran 33.
33Cyfyngiad ar beidio â chynnal cynlluniau er mwyn caniatáu ailystyriaeth neu apêl
1
Ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) oni bai bod is-adran (2) neu (3) yn gymwys.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r cyfnod a ragnodir o dan adran 32(1)(b) wedi dod i ben ac nad oes cais wedi ei wneud o dan yr adran honno.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 32 y dylai’r cynllun beidio â chael ei gynnal ac—
a
bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu
b
bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.
4
Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sy’n gweithredu o dan adran 31(5), neu awdurdod lleol sy’n gweithredu o dan adran 31(6), beidio â chynnal cynllun datblygu unigol tan pa un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—
a
bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal y cynllun gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu
b
bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.
34Cynllun datblygu unigol ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 25 oed
1
Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12, neu ar awdurdod lleol o dan adran 14, i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y person ifanc yn cyrraedd 25 oed ynddi.
2
Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn academaidd” yw—
a
mewn perthynas â pherson ifanc sy’n mynychu sefydliad yn y sector addysg bellach, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf, a
b
mewn perthynas ag unrhyw berson ifanc arall, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae cwrs addysg neu hyfforddiant y person ifanc yn dod i ben neu’r diwrnod cyn i’r person ifanc gyrraedd 26 oed (pa un bynnag sydd gynharaf).
Trosglwyddo cynlluniau
35Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau
1
Mae is-adran (3) yn gymwys os—
a
yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,
b
yn union cyn i’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir, ac
c
na fwriedir i addysg neu hyfforddiant barhau i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol arall honno.
2
Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os—
a
yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,
b
oedd y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac
c
oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol arall ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.
3
Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (2) (a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.
4
Mae is-adran (6) yn gymwys os—
a
yw person ifanc yn ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,
b
oedd y person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac
c
oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.
5
Yn is-adran (4)(a) a (b), ystyr “blwyddyn academaidd” yw unrhyw gyfnod rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf.
6
Rhaid i gorff llywodraethu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.
7
Mae is-adran (8) yn gymwys os—
a
yw awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, a
b
yn union cyn i’r awdurdod ddod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 14 gan awdurdod lleol arall.
8
Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir yn is-adran (7)(a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.
9
Mae is-adran (10) yn gymwys os—
a
yw plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a
b
yn union cyn i’r plentyn ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 12 neu 14.
10
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).
11
Mae is-adran (12) a (13) yn gymwys os—
a
yw person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)),
b
yw awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, ac
c
yn union cyn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 19.
12
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol.
13
Mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).
36Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
2
Caiff yr awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu’r sefydliad ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun.
3
Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chytuno i’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylai corff llywodraethu’r sefydliad addysg bellach gynnal y cynllun.
37Rheoliadau ynghylch trosglwyddo cynlluniau datblygu unigol
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy—
a
trosglwyddo o dan adran 35 ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc;
b
gwneud cais o dan adran 36, atgyfeiriad neu benderfyniad o dan yr adran honno a throsglwyddo dyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc yn dilyn cais neu benderfyniad o’r fath;
c
trosglwyddo o dan amgylchiadau rhagnodedig ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—
i
o un awdurdod lleol i awdurdod lleol arall;
ii
o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir neu sefydliad arall yn y sector addysg bellach;
iii
o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i awdurdod lleol;
iv
o awdurdod lleol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach.
2
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad yng Nghymru.
Pwerau i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
38Pŵer awdurdod lleol i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
Nid yw unrhyw bŵer awdurdod lleol o dan y Bennod hon i gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn arferadwy mewn cysylltiad ag ysgol nad yw’r awdurdod yn ei chynnal oni bai bod yr awdurdod wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ynghylch ei fwriad i arfer y pŵer.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraill
1
At ddibenion y Ddeddf hon—
mae i “awdurdod cartref” yr ystyr a roddir i “home authority” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (2);
mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” yr ystyr a roddir i “beginning of the detention” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “llety ieuenctid perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant youth accommodation” gan adran 562(1A)(b) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yw plentyn neu berson ifanc—
- a
sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a
- b
sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr,
ac mewn darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth.
- a
2
Caiff rheoliadau ddarparu—
a
i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;
b
i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.
40Dyletswydd i lunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—
a
y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
b
nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.
2
Rhaid i’r awdurdod—
a
penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
b
os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.
3
Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.
4
Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.
5
Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—
a
llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
b
rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.
6
Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—
a
penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
b
os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
7
Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.
8
Y mathau o ddarpariaeth yw—
a
lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
b
bwyd a llety.
9
O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—
a
nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
b
mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
41Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys
1
Nid yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys os yw’r un neu’r llall o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
2
Yr amgylchiadau yw—
a
bod y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i benderfyniad o dan adran 40(2)(a) gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio;
b
bod yr awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—
i
nad yw anghenion y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
ii
nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar benderfyniad o dan adran 40(2)(a) neu (b).
42Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r person yn gaeth—
a
gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 12, neu
b
gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 14 neu 19.
2
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40(5).
3
Os yw’r awdurdod cartref ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn awdurdod cartref yng Nghymru, rhaid i’r awdurdod cartref gadw’r cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.
4
Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i’r cynllun datblygu unigol gael ei gadw.
5
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â chynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gan awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod cartref, oni ddygir y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal i sylw’r awdurdod cartref.
6
Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth a rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn ei fod yn cadw cynllun datblygu unigol tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.
7
Rhaid i’r awdurdod cartref roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.
8
Pan fo awdurdod cartref yn cadw cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—
a
trefnu i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
b
os yw’r cynllun yn pennu y dylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yn cael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth.
9
Yn yr adran hon, ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol” yw—
a
y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun datblygu unigol,
b
os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’n ymarferol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun gael ei darparu, darpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, neu
c
os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn briodol mwyach ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol.
43Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaeth
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os—
a
yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau,
b
yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y person ar y dyddiad rhyddhau, ac
c
oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).
3
Ond mae is-adran (4) yn gymwys yn lle is-adran (2)—
a
os yw’r person sydd wedi ei ryddhau yn blentyn, a
b
os yw’r plentyn, yn union wedi iddo gael ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.
4
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).
44Darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth
1
Mae’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (2) ar y cyrff a ganlyn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth—
a
corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
b
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;
c
awdurdod lleol.
2
Y darpariaethau yw—
a
adran 11 (dyletswydd corff llywodraethu i benderfynu);
b
adran 12 (dyletswydd corff llywodraethu i lunio a chynnal cynllun);
c
adran 13 (dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu);
d
adran 14 (dyletswydd awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun);
e
adran 26 (dyletswydd awdurdod lleol i ailystyried penderfyniad corff llywodraethu);
f
adran 30(2) (dyletswydd corff llywodraethu i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);
g
adran 47(2) (dyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).
3
Nid yw’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (4) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw—
a
yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a
b
wedi ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
4
Y darpariaethau yw—
a
adran 11 (dyletswydd i benderfynu);
b
adran 12 (dyletswydd i lunio a chynnal cynllun);
c
adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn);
d
adran 30(2) (dyletswydd i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);
e
adran 47(2) (dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).
5
Mae is-adran (6) yn gymwys hyd nes bod adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (cymhwyso darpariaethau i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol) yn dod i rym yn llawn o ran Cymru.
6
Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i gael effaith at ddiben y pwerau a’r dyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon ar awdurdodau lleol fel pe bai adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) mewn grym yn llawn o ran Cymru.
7
At ddibenion y Rhan hon, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) o adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) at lety ieuenctid perthnasol i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
45Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan, oherwydd adran 44 neu adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), na fo pwerau neu ddyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon i neu ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc—
a
sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a
b
sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20).
2
Caiff rheoliadau ddarparu i’r pwerau neu’r dyletswyddau hynny gael eu cymhwyso, gydag addasiad neu hebddo, mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.
Yr angen am gynlluniau
46Rheoliadau ynghylch penderfynu a oes angen cynllun datblygu unigol
1
Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn a phenderfyniadau a wneir odanynt—
a
adran 14(1)(c)(ii);
b
adran 31(6)(b);
c
adran 40(2)(b).
2
Caiff rheoliadau—
a
pennu ffactorau sydd i gael eu hystyried wrth asesu a oes angen llunio neu gynnal cynllun;
b
pennu amgylchiadau y mae angen, neu nad oes angen, llunio neu gynnal cynllun odanynt;
c
darparu ar gyfer yr hyn sydd i gael ei ystyried, neu nad yw i gael ei ystyried, yn anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant (pa un ai wrth bennu ffactorau, pennu amgylchiadau neu fel arall);
d
gwneud darpariaeth bellach ynghylch y diffiniad o “addysg neu hyfforddiant”;
e
gwneud darpariaeth ynghylch y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau.