xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiolLL+C

63Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiadLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.

(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—

(a)digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(b)maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.

(4)Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I5A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I8A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I9A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I10A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I11A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I12A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I13A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I14A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

64Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Y cyrff iechyd yw—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(c)bwrdd gofal integredig;]

(d)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(e)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(3)Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).

(4)Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.

(5)Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I16A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I17A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I18A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I19A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I20A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I21A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I22A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I23A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I24A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I25A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I26A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I27A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I28A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arallLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

[F2(j)GIG Lloegr;]

[F3(k)bwrdd gofal integredig;]

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I30A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)

I31A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I32A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I33A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I34A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I35A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I36A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I37A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I38A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I39A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I40A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I41A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I42A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I43A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

66Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

(3)Y sefydliadau yw—

(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)Academi;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I45A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I46A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I47A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I48A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I49A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I50A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I51A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I52A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I53A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I54A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I55A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I56A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I57A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

67Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu i awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer y telerau a’r amodau y caniateir i nwyddau a gwasanaethau gael eu cyflenwi yn unol â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I59A. 67 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(f)