RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol

I1I6I760Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

1

Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

a

i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—

i

sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,

ii

sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu

iii

sy’n uned cyfeirio disgyblion;

b

i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

2

Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

3

Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.

4

Caiff rheoliadau—

a

ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);

b

rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

5

Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.

I3I261Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig

1

Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

2

Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—

a

sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu

b

sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.

3

Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

4

Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.

I5I462Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar

1

Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlant sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

2

Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar”.