RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

70Hawliau o ran apelau a cheisiadau

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

i benderfyniadau corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

b

i gynlluniau datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

c

i gynlluniau datblygu unigol a ddiwygir gan awdurdod lleol o dan adran 27(6).

2

Caiff plentyn neu berson ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

a

penderfyniad gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 11 neu gan awdurdod lleol o dan adran 13, 18 neu 26 o ran a oes gan berson anghenion dysgu ychwanegol;

b

yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) o ran a oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol;

c

y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

d

y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

e

y ddarpariaeth a gynhwysir mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 14(6) neu 19(4) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny yn y cynllun;

f

yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

g

os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

h

penderfyniad o dan adran 27 i beidio â diwygio cynllun datblygu unigol;

i

penderfyniad o dan adran 28 i beidio â chymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol yn dilyn cais i ystyried gwneud hynny;

j

penderfyniad i beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) neu 31(6);

k

penderfyniad o dan adran 32(2) y dylai corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun;

l

gwrthodiad i benderfynu ar fater ar y sail bod adran 11(3)(b), 13(2)(b), 18(2)(b) neu 29(2)(a) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

3

Caiff plentyn neu riant plentyn wneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ddatganiad bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi i blentyn neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

4

Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

a

darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

b

adran 85(4).

71Penderfyniadau ar apelau a cheisiadau o dan adran 70

1

Ar apêl o dan adran 70(2), caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—

a

gwrthod yr apêl;

b

gorchymyn bod gan berson, neu nad oes gan berson, anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;

c

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol;

d

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;

e

gorchymyn i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt);

f

gorchymyn i awdurdod lleol gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol;

g

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol;

h

anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru sy’n gyfrifol am y mater neu i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

2

Ar gais o dan adran 70(3) mewn cysylltiad â phlentyn, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ddatgan naill ai bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

72Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

i benderfyniadau awdurdod cartref yng Nghymru o dan adran 40;

b

i gynlluniau datblygu unigol a gedwir gan awdurdod cartref o dan adran 42.

2

Caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac, yn achos person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, rhiant y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

a

penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol;

b

penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a fydd angen i gynllun datblygu unigol gael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person ei ryddhau;

c

y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

d

y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

e

y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 40(7) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan o dan yr adran honno yn y cynllun;

f

yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

g

os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

h

gwrthodiad i wneud penderfyniad o dan adran 40(2) ar y sail bod adran 41(2)(b) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

3

Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

a

darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

b

adran 85(4).

73Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72

Ar apêl o dan adran 72, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—

a

gwrthod yr apêl;

b

gorchymyn bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth neu nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;

c

gorchymyn i awdurdod cartref lunio cynllun datblygu unigol;

d

gorchymyn i awdurdod cartref ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;

e

anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

74Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadau

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon, gan gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

a

ynghylch materion eraill yn ymwneud â chynllun datblygu unigol y gellir dwyn apêl yn ei erbyn;

b

ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a dyfarnu arnynt;

c

sy’n rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ar apelau neu geisiadau;

d

ar gyfer apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(c) gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r Tribiwnlys, wrth ddyfarnu ar apêl yn erbyn mater neu wrth ddyfarnu ar gais, i wneud argymhellion mewn cysylltiad â materion eraill (gan gynnwys materion na chaniateir i apêl gael ei dwyn neu i gais gael ei ddwyn yn eu herbyn).

75Rheoliadau ynghylch y weithdrefn

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

cychwyn apêl neu gais o dan y Rhan hon;

b

trafodion Tribiwnlys Addysg Cymru ar apêl neu gais o dan y Rhan hon.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

a

o ran y cyfnod y mae apelau neu geisiadau i gael eu cychwyn ynddo a’r dull ar gyfer cychwyn apelau neu geisiadau;

b

pan fo awdurdodaeth y Tribiwnlys yn cael ei harfer gan fwy nag un tribiwnlys—

i

ar gyfer penderfynu pa dribiwnlys sydd i wrando ar unrhyw apêl neu gais, a

ii

ar gyfer trosglwyddo trafodion o un tribiwnlys i dribiwnlys arall;

c

ar gyfer galluogi i unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â materion sy’n rhagarweiniol i apêl neu gais neu faterion sy’n gysylltiedig ag apêl neu gais gael eu cyflawni gan y Llywydd neu gan y cadeirydd cyfreithiol;

d

i wrandawiadau gael eu cynnal yn absenoldeb aelod ac eithrio’r cadeirydd cyfreithiol;

e

o ran y personau a gaiff ymddangos ar ran y partïon;

f

ar gyfer rhoi unrhyw hawliau o ran datgelu neu arolygu dogfennau neu o ran manylion pellach y caniateir i’r llys sirol eu rhoi;

g

sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau;

h

ar gyfer awdurdodi i lwon gael eu gweinyddu ar gyfer tystion;

i

ar gyfer dyfarnu ar apelau neu geisiadau heb wrandawiad o dan amgylchiadau rhagnodedig;

j

o ran tynnu apelau neu geisiadau yn ôl;

k

o ran dyfarnu costau neu dreuliau;

l

ar gyfer asesu neu setlo fel arall unrhyw gostau neu dreuliau (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi i gostau neu dreuliau o’r fath gael eu hasesu yn y llys sirol);

m

ar gyfer cofrestru penderfyniadau a gorchmynion a chael prawf ohonynt;

n

ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, o dan amgylchiadau rhagnodedig;

o

ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i atal trafodion;

p

ar gyfer ychwanegu ac amnewid partïon;

q

ar gyfer galluogi delio ag apelau neu geisiadau gan bersonau gwahanol gyda’i gilydd;

r

i apêl neu gais o dan y Rhan hon gael ei gwrando neu ei wrando, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, gyda hawliad o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

3

Rhaid i drafodion gerbron y Tribiwnlys gael eu cynnal yn breifat, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig.

4

Nid yw Rhan 1 o Ddeddf Cymrodeddu 1996 (p. 23) yn gymwys i unrhyw drafodion gerbron y Tribiwnlys, ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan honno.

76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y Tribiwnlys

1

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—

a

arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;

b

gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.

2

Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.

3

Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.

4

Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—

a

y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu

b

pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.

77Cydymffurfedd â gorchmynion

1

Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud gorchymyn o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff ei wneud.

2

Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw lunio adroddiad i’r Tribiwnlys yn datgan a yw wedi cydymffurfio â’r gorchymyn a sut y gwnaeth gydymffurfio â’r gorchymyn, cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir o dan is-adran (1).

78Pŵer i rannu dogfennau a gwybodaeth arall â Gweinidogion Cymru

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru rannu â Gweinidogion Cymru unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â pha un a fu neu a fydd cydymffurfedd â gorchymyn neu argymhelliad a wnaed gan y Tribiwnlys o dan y Rhan hon ai peidio neu sy’n ymwneud â pha un a gafodd neu a gaiff gorchymyn neu argymhelliad o’r fath ei ddilyn ai peidio.

79Trosedd

1

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad—

a

mewn cysylltiad â datgelu neu arolygu dogfennau, neu

b

i fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau,

pan fo’r gofyniad hwnnw wedi ei osod drwy reoliadau o dan adran 74 neu 75 mewn perthynas ag apêl neu gais o dan adran 70 neu 72.

2

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

80Lwfansau am fod yn bresennol yn Nhribiwnlys Addysg Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau at ddiben presenoldeb personau yn Nhribiwnlys Addysg Cymru neu mewn cysylltiad â hynny.

81Apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys

1

Caiff parti i unrhyw drafodion o dan adran 70 neu 72 gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad a wneir gan Dribiwnlys Addysg Cymru yn y trafodion hynny.

2

Dim ond os yw Tribiwnlys Addysg Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys, ar gais a wneir gan y parti o dan sylw, wedi rhoi ei ganiatâd y caniateir i apêl gael ei dwyn o dan is-adran (1).

3

Mae adran 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (trafodion ar apêl i’r Uwch Dribiwnlys) yn gymwys mewn perthynas ag apelau i’r Uwch Dribiwnlys o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag apelau iddo o dan adran 11 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gyfeiriadau at Dribiwnlys Addysg Cymru.