xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Trefniadau awdurdodau lleol

68Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)cyrff addysg, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)perchenogion sefydliadau perthnasol, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.

(3)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.

(4)Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;

(d)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)Academi.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal.

69Gwasanaethau eirioli annibynnol

(1)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt;

(b)atgyfeirio unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol;

(c)atgyfeirio unrhyw berson sy’n gyfaill achos i blentyn y mae’n gyfrifol amdano ac sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau eirioli annibynnol” yw cyngor a chymorth (drwy gynrychiolaeth neu fel arall) i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos—

(a)sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon,

(b)sy’n ystyried pa un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, neu

(c)sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau a wneir o dan adran 68.

(3)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd—

(a)yn destun apêl i’r Tribiwnlys, neu

(b)yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni.

(4)Caiff y trefniadau gynnwys darpariaeth i’r awdurdod lleol wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.