RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach

86 Myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch

1

At ddibenion y Rhan hon, nid yw myfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach i gael ei drin fel pe bai wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

2

Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan adran 68(2) (trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau) yn gymwys i’r graddau y byddai’n gymwys fel arall mewn perthynas â pherson ifanc i’r graddau y mae’r person hwnnw yn fyfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

3

Mae person yn fyfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach os yw’r person yn dilyn cwrs addysg uwch a ddarperir gan y sefydliad ac nad yw’r person hefyd yn cael addysg neu hyfforddiant a ddarperir ganddo.

4

Pan fo person sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn cael addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan y sefydliad hwnnw, a hefyd yn dilyn cwrs addysg uwch a ddarperir ganddo, mae’r person yn fyfyriwr addysg uwch yn y sefydliad mewn perthynas â’r cwrs addysg uwch (ond mae fel arall i gael ei drin fel pe bai wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad).

5

Yn yr adran hon, ystyr “cwrs addysg uwch” yw cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40).