RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Disgyblion a myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n preswylio yn Lloegr

I1I287Cymhwyso darpariaethau ailystyried i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr

1

Mae is-adrannau (2) a (3) o’r adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd—

a

yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a

b

yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

2

Mae adrannau 26, 27, 29 (fel y mae’n gymwys i adrannau 26 a 27 yn unig) a 32 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 26(1)(b), 27(1)(b) a 32(1)(b), yn lle “i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc” rhodder “i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol”;

b

yn adran 27(1)(a), yn lle “neu 12(3)” rhodder “, 12(3) neu 12(5)”;

c

yn adran 29(2), hepgorer paragraff (b);

d

ym mhob un o’r adrannau mae’r cyfeiriadau eraill at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

e

ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 27(6) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (a) o’r ddarpariaeth honno.

3

Mae adran 14 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc yn rhinwedd is-adran (2) ac adran 26(4) gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 14(1), hepgorer “os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac”;

b

mae’r cyfeiriadau at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

c

ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 14(2) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (b) o’r ddarpariaeth honno;

d

nid yw’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys—

i

os yw’r awdurdod lleol yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 36 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) ac os yw’r awdurdod yn Lloegr, yn rhinwedd y cais hwnnw neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno), neu

ii

os yw awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc;

e

os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn cais o dan baragraff (d)(i), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn, mae’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys eto mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r person ifanc;

f

nid yw is-adrannau (6) i (10) o adran 14 yn gymwys.

4

Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion adran 68 a 69—

a

os yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, neu

b

os yw wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn ardal yr awdurdod.