14(1)Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1 (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur), yn is-adran (4)—
(a)ym mharagraff (c), yn lle “datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56)” rhodder “cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;
(b)yn lle paragraff (h) rhodder—
“(h)sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a enwir mewn cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o’r Ddeddf honno;”.
(3)Yn adran 3 (dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo), yn y tabl—
(a)yn y golofn gyntaf—
(i)yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;
(ii)yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y trydydd tro a’r pedwerydd tro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;
(b)yn yr ail golofn yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.
(4)Yn adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu’n ôl drefniadau teithio), yn is-adran (11), ym mharagraff (b)(ii) yn lle “anghenion addysgol arbennig” rhodder “anhawster dysgu”.