Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)

This section has no associated Explanatory Notes

14(1)Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur), yn is-adran (4)—

(a)ym mharagraff (c), yn lle “datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56)” rhodder “cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;

(b)yn lle paragraff (h) rhodder—

(h)sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a enwir mewn cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o’r Ddeddf honno;.

(3)Yn adran 3 (dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo), yn y tabl—

(a)yn y golofn gyntaf—

(i)yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;

(ii)yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y trydydd tro a’r pedwerydd tro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”;

(b)yn yr ail golofn yn lle “a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’n ymddangos rhodder “neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.

(4)Yn adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu’n ôl drefniadau teithio), yn is-adran (11), ym mharagraff (b)(ii) yn lle “anghenion addysgol arbennig” rhodder “anhawster dysgu”.