ATODLEN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

15Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)

1

Mae Deddf Addysg a Sgiliau 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer adran 143(3) (addysg grefyddol ac addoliad crefyddol mewn ysgolion arbennig nas cynhelir).

3

Hepgorer adran 146 (diddymu’r gofyniad i gymeradwyo ysgolion annibynnol: Lloegr).

4

Hepgorer adran 148 (cymeradwyo ysgolion annibynnol: darpariaeth drosiannol).

5

Yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 75 (a’r pennawd sy’n ei ragflaenu) a 77.