Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6)
23(1)Mae Deddf Plant a Theuluoedd 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 35(1) (plant ag AAA mewn meithrinfeydd a gynhelir ac ysgolion prif ffrwd), ar ôl “mainstream school” mewnosoder “in England”.
(3)Yn adran 43(1) (ysgolion a sefydliadau eraill a enwir mewn cynllun AIG: dyletswydd i dderbyn)—
(a)ym mharagraff (a), ar ôl “school” mewnosoder “in England”;
(b)ym mharagraff (b), ar ôl “school” mewnosoder “in England”;
(c)ym mharagraff (e), ar ôl “school” mewnosoder “in England”.
(4)Hepgorer adran 81 (datgymhwyso Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 mewn perthynas â phlant yn Lloegr).
(5)Yn adran 83(6) (dehongli Rhan 3), ar ôl “Wales” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in Wales were it not for provision secured for the child or young person under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.
(6)Yn Atodlen 3 (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 73.