xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigolLL+C

13Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleolLL+C

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod adran 11(1) yn gymwys a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod penderfyniad ynghylch pa un a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio yn cael ei wneud o dan yr adran honno;

(d)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(e)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc—

(i)sy’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a

(ii)nad yw hefyd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad arall yn y sector addysg bellach neu’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol,

ac na wnaed cais mewn cysylltiad â’r person ifanc i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a).

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adrannau 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn) ac 18 (dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol)).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 13(1): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 13 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 13 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I5A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I7A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I8A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I9A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I10A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I11A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I12A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I13A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I14A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4